Welsh Interest
Catrin Dafydd – Dychmygu y Dyfodol, ysgrifennu Gwales
Saturday 28th April 11:00 Fountain Fine Art Gallery
Catrin Dafydd – Dychmygu y Dyfodol, ysgrifennu Gwales
Session in Welsh – Sesiwn yn Gymraeg
Catrin Dafydd yn trafod ysgrifennu am Gymru yn ei nofel phoblogaidd Gwales gyda’r bardd a golygydd y Stamp, Miriam Elin Jones. Sut mae mynd ati i ddychmygu dyfodol dystopaidd estron i genedl a chymdeithas mor gyfarwydd?
Mae Brynach Yang am orffen popeth. Ond beth fydd yn digwydd i Gymru wedyn? Mae ymgyrch Gwales ar fin dechrau ar siwrne gythryblus… a Brynach sy’n arwain y chwyldro…
Dyma nofel gyffrous a deallus, am Gymru yn 2056 gan awdures unigryw a phrofiadol. Daw Catrin o Waelod y Garth ac mae’n awdures llawn amser ac wedi ysgrifennu nofelau ar gyfer pobl ifanc ac oedolion yn Gymraeg a Saesneg.
Catrin Dafydd discusses her novel, Gwales with Miriam Elin Jones, poet and editor of the newest Welsh language literary magazine on the block, Y Stamp. How does an author imagine an unfamiliar and dystopian future for a familiar society?
Brynach Yang wants to finish everything. And he’s going to do it. But what will happen to Wales then? The Gwales campaign is about to start and Brynach needs to leads a revolution … This is an exciting and intelligent novel about a dystopian Wales in 2056 by an unique and experienced authors. Catrin comes from Gwaelod y Garth and she is a full time author for young people and adults in both Welsh and English.
Aled Sam a Myfyrdodau Canol Oed a 100 lle cyn Brexit:
Sunday April 29th 13:00 MIMOSA Art Gallery
Aled Sam a Myfyrdodau Canol Oed a 100 lle cyn Brexit
Aled Sam yn darllen darnau o’i lyfrau diweddaraf, gyda’i dafod yn sownd yn ei foch wrth gwrs. Cewch tipyn o donic wrth glywed am ei fywyd beunyddiol, troion trwstan a lle I fynd cyn inni orfod llosgi ein pasports coch! Dyma gasgliad o ryfeddodau Ewrop – llefydd, profiadau, blasau hyd yn oed – oll yn deilwng i’w profi cyn bod teithio yn Ewrop yn mynd yn anoddach.
Mae Aled Sam yn wyneb a llais cyfarwydd ers blynyddoedd, yn cyflwyno rhaglenni i Radio Cymru a S4C. Mae’n cyfrannu colofn wythnosol i’r cylchgrawn Golwg.
Sesiwn yn Gymraeg
Aled Sam is a long-time resident of Llandeilo and has broadcasted programmes on Radio Cymru and S4C. This is a reading of his two latest volumes, voicing the humorous trials of a middle age man and shining a light on a 100 European destinations worth visiting before Brexit.
Session in Welsh
Fflur Dafydd and Siôn Owen Tomos – Writers working for TV
Fflur Dafydd & Siôn Owen Tomos – Writers working for TV Sunday April 28th 15:00 Horeb Chapel
Fflur Dafydd, un o sgriptwragedd mywaf profiadol Cymru a Siôn Tomos Owen, cartwnydd a cyflwynydd yn S4C – Cymraeg
Mae Fflur Dafydd yn awdures brofiadol ac yn un o ddramodwyr teledu mwyaf poblogaidd Cymru. Bu’n gweithio ar Pobl y Cwm cyn ysgrifennu cyfres lwyddiannus Parch, a ffilm y Llyfrgell/Library Suicides. Mae’n fardd ac yn gyfansoddwraig a chantores, mae ei gwaith wedi ei gyfieithu I’r Saesneg. Mae’n ddarlithydd mewn ysgrifenuu creadigol ac wedi ennill nifer o wobrau llenyddol dros y blynyddoedd.
Fflur Dafydd is a poet, award winning novelist, composer, singer and writes TV drama series for S4C. Siôn Tomos Owen is a presenter and cartoonist.
Session in Welsh
Myfanwy Alexander – Sut ichi yn mynd ati I sgwennu comedi a nofelau digrif?
Saturday April 29th 13:30 Angel Inn
Myfanwy Alexander – Sut ichi yn mynd ati I sgwennu comedi a nofelau digrif?
Sesiwn ddifyr gan un o’r nofelwyr mwyaf doniol sydd yn ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, bydd yn sgwrsio am y grefft o lunio nofel ddigri gyda Heddyr Gregory
Magwyd Myfanwy Alexander yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion. Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o gyfresi dychan. Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi The LL Files i Radio Wales yn 1999. Hi yw hanner tîm Cymru ar y Round Britain Quiz ar Radio 4. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Oes Heddwas? yn 2015 ac mae’r Arolygydd Daf Dafis wedi bod ar drywydd sawl trosedd a dirgelwch ym mherfeddion y canolbarth oddi ar hynny.
Myfanwy Alexander in conversation with Heddyr Gregory about writing comedy and satire. Do you want to know how to go about writing comedy? This is an opportunity to learn more about the skill with one of Wales best satirical writers
Myfanwy Alexander was raised in Montgomeryshire. After living in every corner of Britain she returned to bring up six girls in a thatched house near Llanfair Caereinion. As an author and broadcaster in English and Welsh she has contributed to several radio and television programmes, including a satirical series. She won a Sony award for The LL Files for Radio Wales’s comedy series in 1999 and she is also a member of the Wales team on the Round Britain Quiz on Radio 4. Her first novel, A Oes Heddwas? was published in 2015 and Inspector Daf Dafis has had a number of crimes to solve since then including one in English, located at the Bloody Eisteddfod !
Heddyr Gregory has worked in broadcasting and is currently Shelter Cymru’s Media Officer. She is a regular contributor to BBC Radio Cymru’s book review programme Y Silff Lyfrau
Session in WELSH
An evening with Eddie Butler
An evening with Eddie Butler: Friday April 27th – 8pm at the Cottage Inn
The former Welsh Rugby Union player, journalist, sports commentator and successful author with Gomer Press will talk Rugby and writing and will present his latest book “The Asparagus Thieves” –
Noson gydag Eddie Butler: Bydd y cyn chwaraewr rygbi dros Gymru, newyddiadurwr, sylwebydd ar chwaraeon ac awdur llwyddiannus gyda Gwasg Gomer yn siarad am rygbi ac ysgrifennu a chyflwyno’i lyfr diweddaraf “The Asaparagus Thieves” – Gwener 27ain Ebrill – 8yh yn Nhafarn y Cottage
Medieval music and the origins of the Eisteddfod
Medieval music and the origins of the Eisteddfod – Saturday 28th of April – Horeb Chapel 14:00
You are invited to step back in time to the court of Lord Rhys in 12th century Wales, with readings from authors Luke Waterson and Jean Gill, accompanied by medieval music from “Vacabwndi” (Elsa Davies, Ceri Owen Jones and Jason Lawday). Vacabwndi will be performing music from Wales on instruments played here in the Middle Ages, the crwth, bray harp and flute. This classic combination of instruments was first described by Gerald of Wales in the thirteenth century, and will take us back to the dynamic soundscape of Medieval Wales.
If you’ve ever wondered what the first Eisteddfod was like and how it came about, you can hear two different versions: 1153, in ‘Song Hereafter’, the last book of the award-winning “Troubadours Quartet” by Jean Gill and 1176, in ‘Song Castle’, by acclaimed novelist and travel writer Luke Waterson. Both Luke and Jean have made some surprising links between the troubadour poetry of Occitan France and Lord Rhys’ tournament of song.
Cerddoriaeth Ganoloesol. Fe’ch gwahoddir i gamu nôl mewn amser i lys yr Arglwydd Rhys yng Nghymru’r 12fed ganrif gyda darlleniadau gan yr awduron Luke Waterson a Jean Gill gyda cherddoriaeth ganoloesol gan Vacabwndi (Elsa Davies, Ceri Owen Jones ac Jason Lawday.)
Os ydych erioed wedi meddwl sut oedd yr Eisteddfod gyntaf a sut y daeth i fod, gallwch glywed dau fersiwn gwahanol: yn “Song Hereafter,” y llyfr diweddaraf yn “Troubadours Quartet” gan Jean Gill mae’n dweud mai yn 1153 cafwyd yr ornest gyntaf oedd ond mae’r nofelydd Luke Waterson a dderbyniodd glod eang, yn “Song Castle” yn dweud mai yn 1176 daeth yr eisteddfod i fod. Mae Luke a Jean wedi gwneud cysylltiadau annisgwyl rhwng barddoniaeth trwbadŵr Occitan yn Ffrainc â chystadleuaeth canu’r Arglwydd Rhys.
- ← Previous
- 1
- 2